O ddwyfol serch, anfarwol serch,
Ysbrydiaeth wen y nefoedd,
Paham na chaiff yr ieuanc fod
Yn ieuanc yn oes oesoedd?
Pam caiff drychiolaeth hagr y byd
Droi'n hunlle freuddwyd cariad?
Pam caiff llysnafedd brwnt y llawr
Wenwyno cwpan teimlad?
Pam ca'r dwyreinwynt miniog ladd
Yr afal yn ei flodyn,
A rhwystro i wrid yr aeddfed ffrwyth
Addurno'r llwythog frigyn!
Ystaenir edyn gwynion serch
Tros byth yn llaid y corsydd?
Ai ni chant hedfan hwnt i'r nos
I'r by thol wyrddion lennydd
Lle na osodir maglau deddf
Ar lwybrau eang rhyddid,
Lle na ddaw niwloedd anair byth
Dros wybren las ieuenctid?
Anfarwol serch herfeiddia rwyd
Rhagfarnau cyfyng dynion;
Enilla nerth mewn poen a gwae;
Dirmyga angau creulon;
Dyhea am eangach byd,
A gloewach nen i'r ysbryd;
Tudalen:Trystan ac Esyllt.djvu/47
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon