Gorffwysant a breuddwydiant am ardaloedd Lle bydd yr hên yn ifanc ac yn hardd. Blodeua'r ardd yng nglyn y dychryniadau Dan gysgod llaes a syn hen ywen gam: Y mynor nadd yw meini mud y fynwent, A'r bwth yw'r bedd lle cwsg fy nhad a 'mam.