Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Trystan ac Esyllt.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tydi bia f'einioes i gyd,
A wyt yn ameu fy serch?
Aberthais obeithion y byd
I brynnu dy gariad, ferch.

Nid cellwair yw serch i mi,
Ond gorlif ysgubol don;
Nid chwarae mo'th geisio di,-
Mae'r gair yn brifo fy mron.