V.LLATAI.
Dyma'r blodau, gwrando'u neges, Gwêl eu lliwiau hardd; Gwyn a gwridog, pur a gwresog Megys serch dy fardd. Pwysau'r neges wywa'r blodau Yn dy law, fy merch; Cwyno maent mor drwm a chreulon Ydyw swynion serch.