Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tudur Aled (JMJ).djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ngwaith Tudur Aled. Ond y mae'r copïwyr wedi llunio'r bai iddo mewn un llinell:

"Ar gleddau | er i gladdu."

Dyna'r u yn gladdu o'r un sain ag ail elfen y ddeusain yn gleddau. Ond "llunio bai lle na bu" yw hyn. Gall pob dyn ganfod, "ïe â hanner llygad," chwedl yr hen Theophilus Evans, mai'r hyn a sgrifennodd Tudur oedd—

"Ar gleddyf | er i gladdu."

Gwelir oddiwrth yr enghraifft ganlynol o waith Tudur na chyfrifid "ymsathr odlau" yn fai lle diweddai'r orffwysfa a'r odl ar wahanol acen:

"Na newyn chwèrwddyn | na chŵyn."

Ynglŷn a chwestiwn proest gellir ystyried cwestiwn yr w ansillafog. Y mae'n hysbys fod yr hen feirdd yn cyfrif geiriau fel garw, galw, delw, enw a'r cyffelyb yn un-sillafog; a dilynid y traddodiad hwn gan feirdd fel Dewi Wyn ac Eben Fardd, ac eraill ar eu hôl hwythau. Ond dilyn yn ddall yr oeddynt gan mwyaf; ni ddeallent yn iawn mai'r rheswm pam y cyfrifid y fath eiriau yn un sillaf gan yr hen feirdd oedd mai un sillaf oeddynt yn eu hamser hwy. Fel hyn cawn Eben yn ysgrifennu mewn cywydd[1]

"Wrth yr un enw | garw | y gwedd."

Gan mai saith sillaf yw hyd llinell o gywydd, rhaid cyfrif enw a garw yn un sillaf bob un; ac eto y maent yn odli ganddo. Os yw'r ddau air yn odli rhaid cyfrif w yn sillaf, o blegid ni cheir odl heb gyfatebiad sillafau. Chwi welwch gan hynny fod Eben yn cyfrif y geiriau yn un sillaf bob un at y mesur, ac yn ddwy sillaf bob un at y gynghanedd. Pa fodd y gall gair fod yn ddwy sillaf ac yn un ar yr un pryd? Nid rhyw hen ystryw neu hoced fel hyn i gyfrif peth yn un ac yn ddau oedd gan yr hen feirdd. Cyfrifent

  1. 1 Gweithiau, td. 185.