Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tudur Aled (JMJ).djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

enw a garw yn un sillaf, am mai un sillaf oeddynt: seinid yr w yn debyg i f ond yn feddalach, ac nid yw'r ddau air unsillafog enw a garw yn odli mwy nag yr odla enf a garf. Gan nad oedd yr w yn sillaf, cydsain oedd hi; ac ni cheid odl ond pan fyddai'r geiriau'n odli hebddi; er enghraifft, i odli â garw yr oedd yn rhaid cael marw neu tarw, ac i odli â delw ni wnai ond gwelw ac elw. Dyma bedwar o eiriau'n cydodli mewn cerdd yn y Llyfr Du, td. 69: syberw, hirerw, derw, chwerw. Felly'r odlir y cyfryw eiriau bob amser gan yr hen feirdd; odla D. ap Gwilym geirw â teirw; bradw â cadw; ac felly bob tro. Felly hefyd, wrth gwrs, yr odla Tudur Aled:

"Ni bu farw | tarw | anturiaeth."

Sylwer, pan ychwaneger sillaf at air fel marw neu delw, nad oes yno wedyn ond dwy sillaf-marwol neu delwau. Un ffordd i ddeall pa fodd у seinid marw yn un sillaf yw ceisio dywedud marwol heb y terfyniad-ol. I ddangos pa mor hollol un-sillafog oedd y cyfryw air i glust Tudur, cymerer y llinell hon o'i waith:

"Pwy a'th eilw | pe a'th wayw onn?"

Os darllennir eilw yn ddwy sillaf, fe ddinistrir y gynghanedd; ond troër yr w yn f, neu gadawer hi allan, ac fe welir y gynghanedd yn amlwg. Sylwer drachefn ar linell fel hon, eto o waith Tudur:

"Dra fu'n weddw | heb drefn iddi."

Os darllennir weddw yn ddwy sillaf, y mae proest i'r odl yn y llinell; ond un sillaf yw'r gair, ac un y cyfrifir ef yn hyd y llinell; a chan mai un ydyw, y mae'r w yn gydsain, ac nid oes broest i'r odl o gwbl yn y llinell. Er mwyn deall y ffordd y darllenasai Tudur hi, seinier y gydsain w ar ddechreu'r heb fel hyn:

"Dra1 fu'n2 wedd3 | wheb4 drefn5 i6ddi7";

ac fe welir ar unwaith nad oes dim tebyg i broest i'r odl