gydio â diwedd gair y gydsain gyntaf o'r gair fo'n dilyn. Gellir gwneuthur yr un modd i gael cynghanedd; ac y mae hynny'n gyfleus weithiau i lunio croes neu draws ddisgynedig. Wrth ddwyn cydsain felly ymlaen fe welir nad oes "dwyll gynghanedd" yn y llinellau hyn o waith Tudur Aled:
"O dda mwy n|i ddymunwn."
"Llew dewr Dd|afydd (Llwyd urddol."
Er fod y beirdd diweddar weithiau yn arfer y dull hwn o gael odl, nid wyf yn cofio am enghraifft ddiweddarach o gynghanedd fel yr uchod na llinell Goronwy:
"Yno'r Glyw N|êr y gloywnef."
I'r gwrthwyneb i hyn, lle bo'r rhan gyntaf i groes neu draws ddisgynedig yn diweddu mewn dwy gydsain, gellir cario'r ail i'r ail ran, fel na bo eisiau cydsain i'w hateb megis yn y llinellau hyn o waith Dafydd ab Gwilym:
"I'm lledd|f wylan (a'm lladdawdd."
"A dwf|n yw tonnau (Dyfi."
Y mae llinellau o'r fath yn bur gyffredin yng ngweithiau'r holl hen feirdd; ac fe â Simwnt o'i ffordd i ddatgan eu bod yn gywir. Dyma ddwy neu dair o enghreifftiau:
"Uwch yw Powl|s no'i chapelau."—Guto'r Glyn.
"O Gaer Wen|t i gwrr Anwig."—L. G. Cothi.
"Ag aeth hwn|t er gwaith anwyr."—Siôn Tudur.
"Er gyrru of|n ar gryfion."—D. Nanmor.
A dyma ychydig o waith Tudur:
"Na yrr d'ofn ar y difeilch."
"A'r dyn crupl er (doe'n cropian."
"Duw drachefn da dyrchafodd."
"Gwent oedd bobl gynt oedd bybyr."
Y mae gwahaniaeth barn ar y cwestiwn a yw hyn yn gyfreithlon pan na bo ond un gydsain ar ddiwedd y gair. Ysgrifennodd Gutun Owain—
"Oes yr u|n is yr awyr."