"Mae 'nghalon a'm bron yn brudd,
Marw f'enaid, mur Eifionydd."
Gan fod y sain yr un, pa fodd y mae yna dwyll odl? Am y beirniaid diweddar a fu'n gwahardd i ni odli u ac y, ni fedrent eu hunain gadw'r rheol, am na wyddent ym mha le yr oedd u nac y i fod. Dywedasent, yn ddiameu, am linell Gruffudd ab yr Ynad Coch—
"Pob mab yn i grud yssy'n udaw",
fod twyll odl ynddi, am eu bod hwy eu hunain, ar ol Pughe, yn camsillafu crud "cradle" fel cryd "fever"; a diau yr honasent fod twyll odl ym mhennill Tudur Aled—
"Nis gall estron ohonun':
Chwychwi a'i gellwch ych hun",
am ein bod ni oll ers dwy ganrif neu dair yn arfer ysgrifennu ohonynt yn lle ohonunt fel y dylai fod. Trwy fod y sain yr un, fe gam-ysgrifennir lliaws o eiriau y dylai u fod ynddynt; ac eto mynnir i ni odli yn ol y sillaf-iaeth. Gan hynny, gwir ystyr y rheol yn awr ydyw, nid sicrhau cyfatebiaeth seiniau yn ol ein cynhaniad ni, ac nid cael cyfatebiaeth yn y seiniau fel yr oeddynt pan oedd gwahaniaeth rhwng u ac y, ond yn unig cael yr odl i gyfateb i orgraff gyfeiliornus yr oes hon. Dyma eto gloffrwym disylwedd y gall y beirdd, os mynnant, ei ysgwyd ymaith fel hunllef. Cymerer am foment ddwy odl fel (1) Gruffudd a prudd, (2) Gruffudd a bydd. Yn ol y tarddiad a'r sain wreiddiol, y gyntaf sy'n iawn; ond yn ol y sillafiad anghywir a arferir yn awr, sef Gruffydd, y gyntaf, sef yr un gywir, yw'r un a gondemnid. Yr unig beth rhesymol, er pan aeth y seiniau'n un, ydyw arfer y ddwy, fel y gwnai Dafydd ap Gwilym a Thudur Aled.
Y mae'r orgraff ddiweddar yn gyfrifol am rai enghreifft-iau o dwyll odl, heblaw gwahardd odlau cywir. Mewn sillaf ddi-acen ar ddiwedd gair, seinir—yg yn—ig, ac felly yr ysgrifennid ef gynt; fel hyn, tebig, dychymig, meddig,