TUDUR ALED.[1]
GAN
YR ATHRO J. MORRIS JONES, M.A.
YCHYDIG O hanes Tudur Aled sydd ar gael, o'r hyn lleiaf mewn argraff; ond diameu fod rhagor yn gorwedd ynghûdd yn yr hen lawysgrifau, yn aros yr ymchwiliwr a gloddia ynddynt am dano. Yr wyf yn ddyledus i Mr. Shankland am dynnu fy sylw at linach y bardd yn Llawysgrif Peniarth rhif 128, tudalen 792 o Report Dr. Gwenogfryn Evans:
"Tudur Aled ap Rob(ert) ap Ithel ap Ll(ywely)n Chwith ap Kyn(wrig) ap Bleddyn Llwyd ap Bleddyn Vychan."
Ond yn rhif 64 yn llaw Simwnt Fychan, dywedir yn ol y Report, td. 450, mai mab oedd Llywelyn Chwith i Ruffudd ap Dafydd Dinllaes; ac mewn man arall, Powys Fadog, iii, 106, cawn mai mab i Fleddyn Llwyd oedd Bleddyn Fychan, ac nid tad, fel y dywed y cofnod uchod. Pa fodd bynnag, y mae'r cofnodion yn cytuno cynbelled a hendaid y bardd; ac nid yw o fawr bwys, am a wn i, pwy oedd ei or-hendaid—caiff yr achyddion benderfynu.
Nid fy amcan i yn y papur hwn ydyw ymdrin â'i hanes, ond dangos beth sydd ganddo i'w ddysgu i ni am y gynghanedd. Cydnabyddid ef yn ei oes yn brif awdurdod ar y gelfyddyd; a'r unig fater yn hanes ei fywyd sydd o bwys i ni yn awr ydyw ei fod yn nai ac yn ddisgybl i Ddafydd ab Edmwnd, ac yn gadeirfardd Eisteddfod Caerwys yn 1523. Fel cadeirfardd yr Eisteddfod perthynai
- ↑ 1 Read before the Honourable Society of Cymmrodorion at 20, Hanover Square, on Friday, 26 February, 1909; Chairman, Ellis J. Griffith, Esq., M.P.