neu—
"Mawr yw pwys Duw marw post Iâl,
Methu rhyfig Mathrafal";
neu—
"Duw Gwyn, er digio ennyd
Ai difa'r iaith yw dy fryd?"
Neu hwn, o ddechreu marwnad D. ab Edmwnd:
"Llaw Dduw a fu'n lladd awen,
Lladd enaid holl ddwned hên";
neu hwn:
"Arfau Duw ar Fodëon
A drewis marc drwy ais Môn."
Weithiau prydferthwch a thynerwch y syniad a dynn sylw, megis yn—
"Y gŵr marw, e gâr morwyn
Ddaear dy fedd er dy fwyn."
Yn enghraifft o'r bardd fel gweledydd a phroffwyd gellir cymryd ei "Gywydd Heddwch". Ni roddwyd y ddadl yn erbyn rhyfel, ac o blaid cyflafaredd, yn fwy grymus erioed nag yn y cywydd hwn; ac ni lefarodd proffwyd erioed yn fwy difloesgni nag y gwnai Tudur wrth y mân uchelwyr oedd yn peri cynnwrf a thlodi yn y wlad drwy eu hymrafaelion.
Nid oes ganddo ryw lawer o farddoniaeth natur—llai na chan ei ewythr, a rhai o feirdd eraill y bymthegfed ganrif, Ond o ran gallu disgrifiadol, nid oedd yn ail i un ohonynt, fel y prawf ei gywydd enwog i'r march.
Er mai â'i waith fel crefftwr yr oedd a wnelwn yn y papur hwn, tybiais yn iawn daflu golwg frysiog fel yna ar ansawdd ei waith fel bardd, rhag arwain neb i dybio ar gam nad oedd Tudur yn ddim ond crefftwr. Yn ei oes fe’i cyfrifid y mwyaf o'r beirdd; yr oedd grym a chyflawnder ei gynghanedd, a newydd-deb a beiddgarwch ei feddyliau, yn peri iddynt synio na buasai ac na byddai ail iddo, fel y dengys y llinellau hyn o'i farwnad a gant Gruffudd ab