arno drefnu a diwygio rheolau barddas; a bu ei waith ef arnynt yn gyfryw ag y gelwid hwynt wedi hynny ar ei enw, fel y tystia englyn Gruffudd Hiraethog:
"Mil pumcant, rhifant, y rhed,—a rhagor
Pump ar hugain, rhodded
Yn ddeddf bwys, beirdd Gaerwys ged,
Rheolau Tudur Aled;"
ac englyn Ieuan Tew:
"Gwylier, gan fynnu gweled—yr heol
I'r awen i cherdded:
Rhol gyniwair, crair beirdd Cred—
Rheolau Tudur Aled."
Cynwysai'r rheolau hyn nid yn unig "reolau barddoniaeth" yn ystyr arferol y gair, ond hefyd "y drefn gyffredin ar wŷr wrth gerdd", megis yn yr hen ystatudau. Deddfir, er enghraifft,—
Penderfynir dyledswydd y disgybl at ei athro:
"Na bo i ddisgybl wneuthur disgybl arall, na dysgu dim ar a gafas gan i athro onid a wnel dan i athro yn ysgol yr athro, neu drwy i ganiad; ac ar bob disgybl bod gidai athro y grawys, ac yn enwedic pob disgybl yspâs nes ynnill gradd ddisgyblaidd, dan boen kolli i radd, oni bydd karchar neu glefyd neu gyfryw achos kyfreithlawn [yn i luddias]."
Trefnir hyd yn oed ar ba bynciau y maent i ganu:
"Ac na bo i brydydd dan radd disgybl brydu na chanu namyn i ferched ac i ofer bethau yn ddyfaliadau i gyfnabod ai awenydd, nes cael gradd mewn eisteddfod warantedic."
Gellir dyfynnu dwy o'r rheolau i ddangos fel y taflant oleuni ar bethau oedd yn dywyll i haneswyr llenyddiaeth yn y ganrif aeth heibio. Llawer o ddyfalu a fu gan y bywgraffwyr beth oedd gwaith y bardd hwn a'r bardd arall; nid oedd ganddynt ddychymyg i amgyffred bywyd yr oesoedd gynt, a thybient fod yn rhaid i fardd fod yn grydd