neu saer neu rywbeth i ennill ei damaid fel yn ein dyddiau ni. Trwy gamddeall rhyw ymadrodd o waith Edmwnd Prys, mynnent mai gof oedd Wiliam Cynwal; ac ni allent benderfynu pa un ai milwr ai clerigwr oedd Siôn Tudur. Y gwir yw, wrth gwrs, fod prydyddiaeth yn alwedigaeth, a thâl cyfreithiol i'r bardd am ei gerdd yn ol rheol osodedig, fel i'r twrnai am ei gyngor: ac eithriad oedd bod dyn yn fardd ac yn offeiriad fel Edmwnd Prys—yn wir peth a waherddid yn rheolau Tudur Aled:
"Hefyd na bo i neb arwain dwy gelfyddyd, megis telynior neu grythor a ffrydyddiaeth neu a chrefft arall, neu brydydd yn of ac yn brydydd, ac na bo i neb athro gymryd yn ddisgybl un a vu brentis i grefft."
Drachefn, yr oedd canu "cywyddau gofyn" yn un o'r defodau sefydledig, fel y gŵyr pawb sy'n gydnabyddus â gwaith y beirdd. Nid oedd y ffi a delid i'r bardd ond rhan fechan o bris y peth a ofynnid; a gellid meddwl y buasai ambell un go haerllug yn llogi beirdd yn fynych i gael mwy na gwerth ei arian oddiar ei gymdogion. Ond dengys y rheolau na chenid y cywydd heb i'r perchennog gydsynio:
"Na bo prydydd a wnel kerdd i erchi march neu vilgi neu gyvryw anwyldlws heb gennad y perchennog."
Ceir felly eglurhad ar ddechreuad yr ymrafael a fu rhwng Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal. Ysgrifennodd Edmwnd gywydd dros ryw Rys Wyn i ofyn i Wiliam am fwa oedd ganddo. Ond ymddengys fod camddealltwriaeth yn rhywle; nid oedd Wiliam wedi rhoi ei gennad, ac yr oedd ei afael yn y bwa yn rhy dynn i ymadael ag ef. Felly canodd gywydd i ateb Edmwnd, ac i roi nag am y bwa. A chanu y buont wedi hynny bob eilwers hyd oni bu Wiliam farw.
Ond er fod y rheolau ymarweddiad hyn i'w cael dan enw Tudur yng nghofnodion Eisteddfod gyntaf Caerwys, diameu mai'r hyn a olygai'r beirdd yn gyffredin wrth