Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Isaf, yn mhlwyf Llannefydd, ar dir ag a fu yn etifeddiaeth Iolo Goch, arglwydd Llechryd, sef ei dŷ ef oedd Coed y Pantwn, ac ef a'i feibion a gladdwyd ym monachlog Eglwysegl, gerllaw Llangollen.

Ond i ddyfod at fy addewid, mewn perthynas i'm treigliad yn y blaen. Mae yn debygol ddarfod blino ar gwmpeini o'r fath ag oeddym ni yn nhy fy nhaid a'm nain; fe orfu iddynt symud i'r naill gwrr i'r tir, i le a elwir Coed Siencyn, lle buwyd gylch blwyddyn neu ragor, a hynny cyn y Rhew Mawr, pryd yr oedd y farchnad yn ddrud iawn, a'r gwanwyn canlynol fe ddaethpwyd i'r Nant, gerllaw Nantglyn, yng nghwrr plwyf Henllan, lle mae lle a'i enw Cwm Pernant, neu Gwm Abernant, lle bu un Sion Parry, prydydd ag oedd yn perchenogi y lle hwnnw. A'r Nant sydd ganol o dri thy yn y cwm hwnnw, sef y Nant Isaf. Ac yn y Nant Uchaf yr oedd pobl a chanddynt fachgen at yr un pryd ag yr oeddwn innau yn dechreu codi allan; ac oblegid eu bod hwy yn fwy ardderchog o ran pwer ac ablwch, gan nad oedd yno ond dau blentyn, ac o honom ninnau ddeg, ac o barthed hynny fe'm galwyd i yn Dwm o'r Nant, ac yntau yn Domas Williams. Ond cyn neidio yn rhy bell o'r dechreu, yr wyf yn cofio, pan oeddwn ychydig dros dair blwydd oed, a myfi yn dyfod gyda fy mam oddi wrth y pistill o nol dwfr, ac yr oedd ar gornel y ty ysgol galchu wyth lath o hyd, ac wedi ei rhoddi i rwystro y gwynt godi y to; minnau, yn lle dilyn fy mam, aethum i ben uchaf yr ysgol. Ac ewythr imi, frawd fy nhad, a'm tad bedydd innau, ddaeth heibio. Minnau a ddywedais,—"Edrych yma,