Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tada bedun, lle dw i." Yntau, gan ddywedyd yn deg wrthyf, rhag i mi ddychrynu a thorri'n ngwddwf, a ddaeth ac a'm cymerodd i lawr; ac ni chafodd fy mam ddim gwybod pryd hynny rhag iddi gael dychryn.

Gwedi hynny ar fyrr, pan oedd fy mam wedi fy ngadael i a'm chwaer yn y gwely y boreu, a myned i ryw neges i dy cymydog, pan ddeffroais i a dechreu galw "Mam," heb neb yn ateb, mi a gymerais fy esgidiau ar fy nhraed, a'm het am fy mhen, ac aethum i dy fy nain yn noeth lymun. Ond fy nain a'm cymerth ac a'm rhoddes mewn gwely cynnes. A chyn pen hir dyma fy mam yn dyfod, wedi ameu pa le gallwn fod, a'm dillad yn ei ffedog, a'r wialen fedw yn ei llaw. Fe fu yno ffwndwr mawr; un am fy achub a'r llall am fy ngheryddu; ond, beth bynnag, mi gefais fy hoedl gydrhyngddynt.

Yr oedd fy mam yn fy ngwarchae, fel ag y daethum yn y blaen; ni feiddiwn i na thyngu nac enwi Duw yn ofer; ac yn wir, drwy drugaredd, fe safodd yr addysg honno wrthyf byth. Pan oeddwn yn blentyn, fe fyddai arnaf ofn Duw; ac ofn, pe buasai i mi alw y cythraul, y daethai i'm nol yn y funud.

Ond ymhen ychydig, oddeutu chwech neu saith mlwydd oedran, daeth ysgol rad i Nantglyn; mi a gefais fyned yno i ddysgu y llythyrenau. Ond yr oedd llawer o son ymysg hen wragedd cyfarwydd y wlad y byddai iddynt fyned a'r holl blant i ffordd pan ddelent yn fawrion, oblegid eu bod yn rhoi eu henwau i lawr; ond beth bynnag, ni chlywais i un o honom fyned. Ond fe aeth y frech wen a myfi adref yn sal; ac yn ol gwella o