Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

honno yr oeddwn yn rhy gryf i allu hyfforddio colli gwaith ac amser i fyned i'r ysgol; fe orfu i mi ddysgu gyrru yr ychen i aredig a llafurio yn hytrach na dysgu darllen; ond fe fyddai fy mam yn adgofio i mi yr egwyddor yn fynych iawn.

Yr oeddwn erbyn hyn cylch wyth oed; a'r haf hwnnw mi gefais fyned i'r ysgol drachefn am dair wythnos; a phan gyntaf y dysgais ysbelio a darllen ambell air, mi a ddechreuais fyned yn awchus iawn i ysgrifenu; mi heliais gnotiau yr ysgaw i wneyd inc, ac a dreuliais hynny o ochrau dalennau llyfrau ag a ddown o hyd iddynt. Ond o ddamwain fe aeth siop yn dref ar dân, ac a losgodd gan mwyaf oll, ond ambell ddarn a safiwyd; ac ym mhlith y darnau llosgedig fe gafodd fy mam am geiniog ryw gynnifer o bapurlenni llosgedig eu corneli, ac a wniodd i mi gopi. Minnau aethum at y gof i Waen Dwysog, ac fe ysgrifenodd yr egwyddor ymhen uchaf y dalennau; a gofalus iawn a fum yn canlyn ar lanw yr holl bapur, yn gyffelyb i ol traed brain. Cael papur ac inc, ac ambell gopi gan hwn a'r llall, hyd oni ddysgais ddarllen Cymraeg, ac ysgrifenu ar unwaith.

Mi a ysgrifenais lawer o gerddi, a dau lyfyr interliwd, cyn bod yn naw oed; ac wrth weled fy athrylith i ddysgu fe ddaeth hwn a'r llall i edliw i'm rhieni na baent yn fy rhoi i ddysgu Saesneg; ond wrth hir addaw hwy a'm gadewsant i fyned i'r dref i'r ysgol, lle bum am bymthegnos yn dysgu Saesneg; a dyna'r cwbl. Fe orfu imi ddyfod adref i wneyd rhywbeth am fy mara, a thuag at gynnal y plant eraill.