Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/128

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

112
Twm o'r Nant.
Ni roddest, Iesu tyner,
Mo'th werthfawr waed yn ofer
Dros fyd anafus ;
D'efengyl sy'n rhoi galwad,
I bob rhyw bechaduried,
O'u beichie dyrus;
'Rwy'n un pechadur amhur wŷn,
Nad oes mo'm dwysach, a ffyrdd ffieiddiach
Ymhob cyfeddach, anuwiol afiach lun ;
A chalon ddrwg yn wastad,
Ddideimlad o Dduw a dyn;
Bum hy', fel mab afradlon fry,
Yn treulio famser, ymhob gwag bleser,
'Rwy'n awr mewn caethder, er faint o falch-
der fu
Mae ngolwg ar fy ngwaeledd,
Yn ofni dialedd du.
Duw, gwna imi gan fy newyn,
Gynhyrfu ymroi a chychwyn
I'mofyn llunieth:
Na ad im' siomi 'nghalon,
Trwy 'mborthi ar gibe gweigion
Gorwagedd barieth;
O! Dduw, dod imi fanna i fyw,
Dod olwg lliwgar i'th weld yn hawddgar,
'Rwy'n ddall, rwy'n fyddar, dod imi glaiar glyw,
Wyt nefol fuddiol feddyg
O'th wir garedig ryw;
Pob syth oer drwst ragrithiol druth
Dadwreiddia o'm hysbryd, a dysg fi'n astud
Yn ffordd y bywyd, dda lwyrftyd yn ddi lyth;
A dod, Amen, ddymuniant
I ganu'th foliant fyth.