Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond gan faint oedd fy awydd i ddysgu, mi a ganlynais arni o hyd. Pan ddown o'r maes i'm pryd bwyd, mi awn at dreser, lle yr oedd droar a phapurau gennyf, ac ysgrifenwn, er allent hwy yn peri imi gymeryd bwyd; a'm heithaf lawer pryd oedd cipio tamaid o frechdan yn fy llaw, a hynny gyda llawer o ddrwg, eisieu bwyta llaeth neu botes, yn lle yr ymenyn. Ond ar un tro, wrth yrru y wedd gyda'r clawdd, fe rwygodd draenen neu fieren fy labet oddiwrth fy nghwat, fe'm tarawodd fy nhad, gan fy rhegi, ac edliw mai gwell oedd gennyf drin fy mhapurau cythraul na thorri'r mieri oedd yn rhwygo fy nillad ac yn tynnu gwlan y defaid. Minnau tan ysnwffian crio ac yn addunedu os fi ai byth i'r ty y llosgwn i yr holl bapurau. Ac yn fy ystyfnigrwydd y noswaith honno mi losgais ryw becyn o ysgrifeniadau, o'r fath ag oeddynt hwy.

Yr oeddwn erbyn hyn cylch deg oed; ac er llosgi y llyfrau, yr oedd yr hen natur yn llosgi ffordd arall am gael canlyn ymlaen ar drin papurau Mi aethum yn gyfaill a hen gowper gerllaw Nantglyn, yr hwn oedd yn fawr ei athrylith am ysgrifenu gwaith prydyddion, sef cerddi a charolau, &c. Ac ar fyrr amser wedi hyn, mi aethum yn gyfaill ag un arall, o'r un fath natur am hel llyfrau, sef hen ddyn oedd yn Mhentre'r Foelas, yn darllen yn y capel y Suliau ac yn clocsio amserau eraill. Cefais fenthyg hen lyfrau gan hwnnw lawer gwaith. A thrwy bob peth a'u gilydd, mi ddysgais ysgrifenu yn lled dda yn y cyffredin o'r gymydogaeth honno. Yn ganlynol, mi aethum yn gyfaill ag un arall oedd yn brydydd, heb fedru darllen nag ysgrifenu; ac yr oedd ef yn un natur-