Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ganu; mi wnaethum interliwd (ar y llyfyr elwir Priodas Ysbrydol," gan Bunyan) braidd i ben, a hynny heb wybod i neb; ond fe ddaeth rhyw lanc o sir Fon heibio y Nant, ac a gafodd lety; ac ef oedd ysgolhaig, a thipyn o'r natur ynddo, minnau mewn caredigrwydd yn dangos pob peth iddo ag oedd gennyf, yntau wrth fyned ymaith a ddygodd gan mwyaf o'm llyfyr. Braidd na ddigalonaswm y pryd hynny rhag prydyddu rhagor. Mi aethum gyda llanciau eraill o gylch Nantglyn i chwareu drachefn, pan oeddwn gylch 13 oed. Yr oeddwn erbyn hyn, os yr un, yn ddoethach na hwy oblegid y mater. Fe ddaeth fy natur yn rhy gref i'w gorchuddio; yr oedd hwn a'r llall yn dechreu taenu fy mod yn brydydd, a nhad a mam yn ysgyrnygu yn arw rhag fy mod yn fy ngwneyd fy hun yn bricsiwn. Ond pe buaswn fwy gwaradwydd neu bricsiwn, i'm fy hun a'm cenedl, hynny fu.

Mi wnaethum interliwd cyn bod yn bedair-ar-ddeg oed yn lân i ben; a phan glybu nhad a mam nid oedd i mi ddim heddwch i'w gael; ond mi beidiais a'i llosgi; mi a'i rhoddais i Hugh o Langwm—prydydd enwog yr amser honno; yntau a aeth hyd yn Llandyrnog, ac a'i gwerthodd am chweugain i'r llanciau hynny, pa rai a'i chwareuasant yr haf canlynol. Ond ni chefais i ddim am fy llafur, oddi eithr llymaid o gwrw gan y chwareuyddion pan gwrddwn a hwynt. Yr oedd hyn, i ganlyn pethau eraill, yn anogaeth i'm dal yn ol

rhag prydyddu, pe buasai ddim yn tycio.[1]

  1. Mi a wnaethum ddwy interliwd, un i bobl Llanbedr, Dyflryn Clwyd, a'r llall i lanciau Llanarmon yn lal, un ar destyn "Gwahanglwyf Naaman." a'r llall ynghylch "Hypocrisia." megys ail wneuthuriad o waith Richard Parry o'r Ddiserth.