Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

[1]

  1. Pan oeddwn yn ieuanc, yr oedd cymaint o gynddaredd, neu wylltineb ynof, am brydyddu, mi a ganwn braidd i bob peth a welwn; a thrugaredd fu i mi na buasai rhai yn fy lladd, neu yn fy llabyddio am fy nhafod ddrwg. Llawer a beryglodd fy rhieni arnaf, mai hynny a fyddai, oni chymerwn ofal rhag dilyn y ffordd honno. Rhyw dro yr oeddwn gyda chyfeillion drwg. fel fi fy hun, mi a ddigwyddais daflu gair penrhydd, lle yr oedd tri neu bedwar o garwyr, oedd yn arfer o gadw cwmpeini merch ieuanc o'm cymydogaeth, oedd yn byw mewn lle a elwid Ty Celyn. Minnau a ddywedais mewn dysgwrs mai carliaid y Ty Celyn oeddynt hwy. Fe glybu'r ferch, ac a gymerodd yn angharedig oblegid fy ngeiriau drwg; ac yr oedd iddi frawd o ymladdwr creulawn. Fe gymerodd hwnnw blaid neu bart ei chwaer i'm ceryddu; ac ryw nos Sul fe a'm gwaetiodd yn dyfod o Nantglyn ac yr oedd ffordd pob un i ddyfod gyda'n gilydd hyd y llwybr adref; ac ef oedd a'i fwriad ganddo am fy nghuro, ac yr oedd ganddo ddarn o bren derwen taclus at yr achos; ac ar ol ymdderu peth hyd y ffordd, fe daflodd y pren i lawr, ac a dynnod yn noeth lymun, minnau a dynnais fy nghwat a'm cadach, ac a gymerais ei bren ef yn fy llaw, yntau a aeth i'r gwrych ac a gymerodd bawl, a churo wnaethom yn ffyrnig iawn. Erbyn euro ennyd, yr oedd y prennau yn ddelft, ac yn lled. fyrion. Yr oeddem weithiau ar lawr, a dal i guro er hynny; ond fe ddaeth rhagor o edrychwyr i feddwl ein rhwystro; ac ni fynnai ef mo'i rwystro. Felly ni a gytunasom i dynnu polion ffres a churo a fu, hyd nes oni aeth i fethu sefyll: mae y creithiau arno ef a minnau hyd heddyw. Ond yn y diwedd, yn llawn o waed colledig, fe ddarfu i'w gymydogion ei gynllwyn ef adref, a sal iawn a fu, a rhai yn barnu y byddai farw; a thrannoeth fe ddaeth alarwm o'i blegid; minnau a ddiengais dros y mynydd i Bentre'r Foelas, at vr hen Sion Dafydd, i drin hen lyfrau. Ac wrth ddarllen rhyw bethau ar gist wrth y ffenestr, yr oeddwn yn arogli drewi mawr; meddwl weithiau fod gan yr hen wr ryw ffieidd-dra tu cefn i'r gist; ond erbyn chwilio'r mater, fy mraich i oedd yn drewi, ar ol cael ei bydru wrth ymladd. Oddivno, ar ol i ryw wraig ymgeleddu peth arnaf, mi a fum yn ffoadur bythefnos neu ragor, ym mhlwyf Bryneglwys yn fal, mewn lle a elwir Pennau'r Banciau, weithiau yn dyrnu, weithiau yn dal aradr a chloddio, a phob peth angenrheidiol, as yn cymeryd gofal o hyd rhag i neb wybod fy helynt. Ond o'r diwedd mi aethum adref; yr oedd yntau yn dechreu codi allan. Fe fynnwyd peth cyfraith arnaf, ond nid llawer. Ac yn ganlynol i'r cythrwfwl hwn, a dymuniad fy mam, mi a beidiais ag ymladd ar ol hynny, rhag digwydd ini beth a fyddai gwaeth.