Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond yn ganlynol, fel yr oedd fy natur i yn anorchfygol, mi a wnaethum interliwd drachefn, ar y testyn "Jacob yn dwyn bendith Esau:" a honno a actiwyd gan lanciau Nantglyn a minnau. Ac yn ol hynny gwnaethum interliwd "Jane Shore." Honno a actiwyd yn gyntaf gan lanciau Llannefydd; ac yn ganlynol gan lanciau Llanbedr Dyffryn Clwyd. Ac yn ol hynny, pan oeddwn gylch 20 oed, gwnaethum interliwd ynghylch "Cain ac Abel," i'w hactio rhwng pedwar dyn; ac mi a fum yn bedwerydd gyda llanciau Llansannan—ac ni a ganlynasom arni am flwyddyn. Ac yn ol hynny, oblegid euogrwydd cydwybod, ac hefyd fy mod yn caru merch oedd yn tueddu at grefydd, wrth i mi ddyfod o le a elwir y Ro Wen, gerllaw Tal y Cafn, mi a daflais y cap. cybydd tros ochr yr ysgraff i afon Gonwy. Ac yn 24 o oedran mi a briodais fy ngwraig, ar y 19 ddydd o Chwefror, yn y flwyddyn 1763. A merch inni a anwyd yn yr un flwyddyn, Rhagfyr 26.

Ni a gychwynasom sefydlu ein bywoliaeth yn y Bylchau, ar fin y ffordd o Nantglyn i Lansanan, tyddyn ag oedd yn perthyn i'r Nant; ond fy mhobl i, yn enwedig un chwaer, oedd yn erbyn i ni aros yno; a minnau a gymerais ryw le bach islaw tref Ddinbych, a elwid yn Ale Fowlio. Buom yno gylch dwy flynedd, yn cymeryd gwair a phorfa oddiamgylch, ac yn cadw tair buwch a phedwar ceffyl, a'm gwaith oedd cario coed o Waenynog i Ruddlan. Ac yr oeddwn yn rhagori ar bawb o'r cariwrs eraill ar lwytho ac ar bob triniogaeth oedd yn perthyn i drin coed; ac o ran hynny byddai rhaid i mi helpu a ffwndro