Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyda hwynt yn y coed, hyd oni aeth fy ngwraig i rwgnach fy mod mor ffol a chadw y ceffylau oddi wrth eu bwyd, a'm poeni fy hunan gyda phobl eraill. Felly, fy ngwraig a'm cynghorodd i ddyfod i lwytho brydnawn, pryd na byddai neb arall, y deuai hi gyda myfi i'm helpu; ac felly fu. Ond wrth hir ddal at hynny, a hithau yn feichiog, ac yn anystwyth i droi yn rowl y creau gyda throsolion heieirn, mi a ddyfeisiais fachu y ceffylau wrth y rhaff i godi y coed i'w llwytho. Ac yn ol dysgu y ceffylau i dynnu ac i ddal, yr oedd llwytho yn dyfod yn esmwythach i'r wraig a minnau; a dyna'r bachu cyntaf wrth raff creau yng Nghymru nac yn Lloeger. Ac yn ganlynol yr oeddym yn cael llonyddwch a hwylustra, yn rhagor bod trafferthu ymysg y cariwrs eraill. Rhyw dro, ni a aethom i'r coed, ac a edrychasom am lwyth; beth a welwn yn ochr y nant Gwaenynog ond llawer o ol traed ceffylau, ac arwydd fod yno drafferth fawr yn ceisio pren i fynv, ac yn lle iddo ddyfod, fe aeth ymhellach i'r Nant nag oedd yn y dechreu: a bu gorfod i ddau gariwr, ac wyth o geffylau, ei adael yno. Minnau a synnais beth uwchben y pren; ac yna, gyda fy nhri ceffyl a pheth ysgil, mi a'i tynnais allan ac a'i llwythais,—dim ond y wraig, y ceffylau, a minnau.

A Chalanmai, ymhen y ddwy flynedd, ni a ddaethom o'r Ale Fowlio i Ben Isa'r Dref, i ryw hen dŷ; ac mi ail adeiledais hwnnw, ac a wnaethum ystablau a chyfleustra yno.

A'r haf canlynol, yr oedd coed Bachvmbyd i'w cario, a chyda rheiny y bum hyd ddiwedd y flwyddyn honno; ac yna fe ddaeth y clafr ar y