Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ceffylau, a'r rheiny yn meirw, a'r gusp neu'r staggers i orphen, a chwedi hynny y rhent, a'r merchant oedd arno arian gwedi myned i'r môr; ac yna fe redwyd arnaf am yr ardreth; a'r pryd hynny mi guddiais ddau geffyl, ac fe brynodd cyfaill y wagen, ac fe'm trystiodd am dani; ond fe werthwyd y cwbl oedd yn y tŷ; nid oedd gennyf un gwely i orwedd, ond gwellt, a rhyw faint o ddillad a brynnodd un o'r cymydogion, a'u benthyca i ni am dro. Yna nid oedd gennyf ddim i'w wneyd, ond cymeryd rhyw ddynan, ag oedd ganddo dri cheffyl, yn rhannog, ei dri ef a'r ddau oedd genyf finnau, a rhoi gwedd ar gerdded. ac efe yn dweyd mai efe oedd bia honno, ond ei fod ef yn talu i mi am help i lwytho, Felly cario yr oeddym i Dreffynnon a manoedd eraill; ac yr oedd yno walch o ŵr boneddig a elwid Mostyn o Galcoed, ac yr oeddwn yn ddyledus i hwnnw am beth rhent am borfa; ond nid oedd ef yn medru cael craff ar y wedd, gan ei bod yn enw un arall. O'r diwedd mi a drewais wrth finars o swydd Fflint, a hwy a'm denasant i wneyd interliwd, minnau a wnaethum ar "Weledigaeth Cwrs y Byd yn nechreu y Bardd Cwsg; a chwareu buom, bedwar ohonom; ac wrth chwareu, fe'm daliwyd yn y Brickill, tros Mostyn Calcoed, i fyned i'r jel. Minnau a roddais feichnafon tan y sesiwn; a rhwng hynny oedd y wedd yn ei ennill, a minnau wrth chwareu, mi a delais yr arian, gyda llawer o gost.

A phan ddaeth hi yn ddiwedd blwyddyn, mi a gedwais y wagen, ac un ceffyl, ac mi roddais heibio chwareu gyda rhai hynny, ac a wnaethum interliwd i'w hactio rhwng dau, ac mi a ganlynais