Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

honno dros flwyddyn, ymhell ac yn agos, ac enillais lawer o arian. Ei thestyn oedd, "Ynghylch Cyfoeth a Thlodi." Ac yn ol hynny, mi a wnaethum un arall rhyngom ein dau, "Am Dri Chydymaith Dyn, sef y Byd, a Natur, a Chydwybod," ac a'i dilynasom mor ddyfal a'r llall. Ac wedi blino ar honno, mi a wnaethum un ar destun, "Y Brenin, a'r Ustus, a'r Esgob, a'r Hwsmon," ac ni a ganlynasom lawer ar honno. Mi a fyddwn yn arfer, pan ym min troi heibio chwareu, mi a'i hargraffwn, ac a'i gwerthwn; a gwerth hwylus oedd arnynt, a thâl da oddiwrthynt.

Ac yn ol blino yn canlyn chwareu, mi a godais wedd, ac a aethum i gario o Gaer i dref Ddinbych, i siopwyr ac eraill. Yr oeddwn erbyn hyn yn lled gryno, gwedi cael pethau yn tŷ, a gwedd ganolig i gario. Ac felly dal at gario y bum hyd onid aeth y wagen sengl yn wagen ddwbl, a chwech o geffylau da yn ystlysau eu gilydd; phedwar o rai gweddol wrth y wagen gul. Fe dynnai y chwech bum tunell o bwysau; a'r wagen arall o gylch dwy dunell a hanner. Mi a fum felly yn dal i gario o Gaer cylch 12 mlynedd, nes y daeth rhyw genedl wenwynig o'r dref i ymryson ac i ostwng ar y cyflog, ac i wneyd pob cenfigen a ellynt. Yna mi a aethum yn lled ddifater am Gaer, ac a droais i gario coed. Mi a fum yn cario am hanner blwyddyn o Goed y Fron, sef coed Rug, oddiwrth Gorwen i Ruddlan, ac ambell waith i Gaer; ond yr oeddwn y pryd hynny, drwy pob peth, o gylch gwerth 300 o bunnoedd o'm heiddo fy hun. Ond fel yr oeddwn yn ffyrnig am wneyd fy ngoreu, mi a ymroddais i gario