Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

egorais yr oeddwn fel rheiny a'r arian yngenau'r ffetanau, yr oedd yno yn gynwysedig am i'r gwalch hwnnw ganlyn arnaf, mai goreu y cam cyntaf, fy mod yn ddigon abl i dalu. Pan welais beth oedd yno, mi losgais y llythyr, ac a gymerais y carnau i'r Deheudir, at wr o'r Eglwysfach oedd gwedi prynu coed Abermarlais yn swydd Gaerfyrddin. Yr oedd ym Meifod, y plwyf lle yr oeddwn, exciseman o'r wlad honno, cefais direction o'r ffordd, ac ymaith a mi. Cychwynais ddydd Sadwrn, ac yno nos Sul, heb son wrth neb o'm teulu ond wrth fy merch hynaf. Ac ar ol lled gytuno am waith cario, am 6ch. y droedfedd, o'r coed i Gaerfyrddin, daethum adre gynta gellais, ac a heliais y wagen ddwbl a'r ceffylau, wyth ohonynt, ac a wnaethym y goreu o'r ffordd. Ac mi adewais y wagen fach yno a'r teulu, dim ond y llanc a minnau aeth pryd hynny; yr oedd yn rhyhwyr gennyf gychwyn o sir Drefaldwyn. Ac yn ol cyrraedd yno, mi a gefais le da i'r ceffylau, a gadewais y llanc a hwythau yno, ac a ddaethum i nol fy ngwraig a'm tair geneth. Pacio rhyw betheuach i'w rhoi gyda cariwr i Fachynlleth; yr oedd gennyf lonaid cwd llestraid o lyfrau, a dillad hefyd mewn sachau. Ar ol i mi a'r merched ddyfod i ffordd, ni welais fyth ddim o'r eiddo, y wagon, na'r dillad, na'r llyfrau. Gyda llawer o flinder a thrymder calonnau, ni a ddaethum oll i ben ein siwrneu yn lled iach. Ni a fuom am ryw hyd heb gael lle i setlo i fyw heb- law ar aelwyd eraill; ond trwy ryw ragluniaeth fe ddarfu ein meistr, y timber merchant, gymeryd gate turnpike am gan punt ac wyth yn y flwyddyn o rent; y ni i gael arian y gate at ein bywoliaeth,