Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a setlo y rhent wrth gario. Buom felly yn dechreu bwrw ein henflew yn rhyfedd, a minnau yn cario coed mawr iawn, na welwyd ar olwynion yn y wlad honno mo'u cyffelyb, nac yn odid wlad arall, am a glywais i. Llawer o goed a lwythais, ac aethum a hwy i ben eu siwrneu; rhai yn gan troedfedd, a chant a hanner, a dau gant, yn un darnau; a'r mwyaf, oeddynt yn ei alw brenin- bren, oedd yn ddau gant a phedair troedfedd a deugain. Yr oedd gennyf dri phar o olwynion yn cario hwnnw; y wagen oedd a dau fraich cryfion ar ei hyd, a rowl ar y canol, a'r trydydd par o'r tu ol yn cydgario, fel pe buasai ond pedair olwyn. Ond wrth ddyfod i'r coed i lwytho y pren hwnnw fe gododd pobl y wlad, o'r llannau a'r ffyrdd, fel pe buaswn yn y wlad yma yn chwareu interliwd, a llawer o'r bobl gyfarwydd yn dywedyd na lwythwn byth mono, na ddaliai'r taclau ddim i godi y fath bwysau. Yr oedd ef 45 troedfedd o hyd, a chwedi ei ysgwario yn lân: minnau a godais y crean uwchben ei flaen ef, ac fe'i cododd y ceffylau ef yn esmwyth; ac yna rhedais y par olaf mor belled ag y medrwn dano; ac yna symud y crean at ei ben bôn, a deisif ar y segurwyr oedd yno neidio ar y gynffon; ac yna codi'r bôn a'i lwytho ar y wagan; ac yna gyrru ymlaen ac ail setlo yr olwynion olaf; yna myned i'r ffordd ac i Gaerfyrddin, heb gymaint a thorri linc tres. Ond gwedi myned i'r dref, at Borth Heol y Brenin, a'r ceffylau yn nwbl, ac yn llonaid y porth, a thalcen y pren yn taro yn yr arch; dyna luoedd o bobl y farchnad yn dechreu ymgasglu o'm cwmpas, ac yn tyngu nad awn byth ffordd honno; minnau, gwedi synnu peth, a gefais gan