Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tri o'r Hen Deulu. 19 rai oedd yno, trwy addo yfed atynt, fy helpu i facio yr olwynion yn eu holau; ac felly trwy fod amryw yn taro llaw ar y peth, mi a'i cefais hi yn ol; a chwedi hynny ni aethom, dri neu bedwar, i yard yr Ivy Bush, tŷ tafarn, lle yr oedd crystiau coed (yslabs) ac a gawsom eu benthyg, ac mi a'u gosodais hwynt o flaen yr olwynion olaf, yn glwt i godi y rheiny, fel y byddai i'r pen arall ostwng tan y bwa maen, ac felly y bu, a'r edrychwyr a roddasant fonllef groch wrth weled y fath beth, ac amryw o honynt a yfodd at y llanc a minnau, am ein gwyrthiau.

Gwedi yr holl bethau hyn, yr oedd yr hen gancr yn perthyn i mi eto. Beth a'm cyfarfu un diwrnod ond tri o'r hen deulu, ceisbyliaid sir Drefaldwyn; hwy a ddechreuasant ymaflyd yn y wedd, a myned a hi i'r ty tafarn yn Llandeilo Fawr, yn agos i'r lle yr oeddwn yn cadw'r gate; minnau a aethum yn greulawn am i'r ceffylau gael mynd i'w ystabl eu hunain, ac iddynt hwythau setlo drannoeth. Beth bynnag, yn ymrafael yr aeth hi, a dechreu ffusto a wnaethum, ac mi gefais ddau i lawr, ac a ddeliais i guro; gyda hynny, dyma'r trydydd yn dyfod. Pan welodd hwnnw ei gyfeillion ar lawr, fe ddaeth tu cefn i mi, ac a ddechreuodd fy mesur; ond digwyddodd i hen was Rice, o'r Drefnewydd, ddyfod yno, ac fe gafwyd heddwch; a'r bailiaid a fynasant gonstabliaid, a chyda hwy y bum i yn ddrwg fy nghwrs trwy'r nos. A chyfeillion i mi oedd o amgylch y drysau: pe cawsent ryw faint o gyfleustra, hwy a fuasent yn dibenu y tri cheisbwl maes o law; ond ustus heddwch yn y dref a ddeisyfodd arnaf fod mor heddychol ag y medrwn, y mynnai ef wastadhau