Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ryw ddiwrnod penodol, ac y byddai fwyd a diod i bawb a ddelaii roi llaw at yr achos. Felly fe ddarllawodd 4 hobaid o'n mesur ni yn Ninbych, sef deudel yno; ac fe bobodd ffwrnaid fawr o fara, ac a brynwyd rhyw lawer o gaws a menyn, a chig i'r bobl orau. Ac yr oedd y llong gwedi rhoi pedair olwyn tani, fel pedair o fothau troliau mawr, a'u cylchu a haiarn, ac echelau mawr yn y bowliau hynny, a chwedi eu hiro erbyn y dydd cysegredig. Minnau oeddwn yn digwydd llwytho yn y coed y diwrnod hwnnw; ac ar ol gyrru y wedd yn ei blaen, mi arosais yno i weled yr helynt. A helynt fawr a fu,—bwyta yr holl fwyd ac yfed yr holl ddiod, a thynnu y llong o gylch pedwar rhwd o'i lle, a'i gollwng i ffos clawdd dwfn. Erbyn hynny yr oedd hi agos yn nos, ac ymaith a'r gynulleidfa, rhai yn o feddwon, a'r lleill ag eisiau bwyd, a llawer o chwerthin oedd ymhlith y dorf. A'r merchant a dorrodd i gwyno o ran ei ffolineb yn gwneyd y fath beth, ac yn dywedyd wrthyf y byddai raid ei thynnu oddi wrth ei gilydd cyn byth y ceid hi o'r clawdd. Minnau a ddywedais y medrwn fynd a hi i'r afon ond cael tri neu bedwar o ddynion i'm helpu; yntau a ddywedodd y cawn y peth a fynnwn os medrwn fynd a'r llong i'r afon. A deisyf yr oedd arnaf am ddyfod y boreu drannoeth, os y gallwn; minnau a ddaethum, a'r llanc, a phedwar o geffylau. A mi ddaethum o flaen y wedd, ac a rodd— ais y dynion ar waith i dorri twll mewn hen wal fawr oedd megis 'o flaen y llong; ac yna rhoi darn o bren ar draws y twll, y tu pellaf, i roi chain i fachu y tacl, sef rhaff a blociau, a bachu y pen arall wrth y llong, a rhoi y ceffylau wrth y rhaff i