Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dynnu. Felly hi ddaeth o'r clawdd yn lled hwylus. Ac yno bachu drachefn wrth bren yn tyfu, a dyfod ymlaen felly. Ond pan ddoed i dir meddal, yr oedd rhaid rhoi planciau tan yr olwynion o ran y pwysau, ac ar ol tynnu i ben blaen y planciau, symud y rhai olaf ymlaen, ac felly o hyd. Ac lle na byddai cyfle i fachu wrth bren yn tyfu, byddai rhaid rhoi post yn y llawr i fachu. Ac o bost i bared hi aeth i'r afon mewn ychydig ddyddiau. Ac addaw i minnau gyflog da, ond ni chefais i yn y diwedd un ddimai byth, ond addaw a'm canmawl. Rhai pobl a fyddai yn dyfod i edrych arnom, ac yn rhoi peth arian i ni geisio cwrw, a dyna y cwbl. A phan ddarfu hynny, cario 'ngorau a wneis i.

Pan aeth coed Abermarlais yn wag, mi aethum i Daliaris, ac i Allt y Cadno, a Chil y Cwm, a Myddfai, Llangenyrch, a Gwal yr Hwch, a Llanedi. Mi a fum yn cario i Forge Llandyfan, ac i Bont ar Ddulas, ac i Abertawe, ac o Aberafan i Gastell Nedd, ac yn cario o le a elwir y Ffrwd i Gaerfyrddin, ac o Wenfra i Gaerfyrddin; ac o amryw leoedd eraill nad wyf ddim yn cofio. Fe fu farw i mi yn Ninbych gwmpas hanner cant o geffylau, ac yn swydd Gaerfyrddin saith ar ugain. Ac ar ol yr holl helyntion fe aeth y merchant coed yn ol llaw yn y byd, ac fe droes yn bur gnafus ac anonest yn ei gyfrif ac yn ei dâl. Fe aeth oddi arnaf ar unwaith, wrth geisio setlo, £54 6s. Fe fu llawer o'm ffrindiau yn y wlad honno yn ceisio ganddo beidio a gwneyd cam ag un oedd gwedi dyfod o'r un wlad ag yntau, ac wedi cario coed na chariasai neb yn y wlad honno mo'nynt. Gwedi yr holl gythryfwl nid