Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

niffyg na byddai i mi gael fy nhir, y byddai fy melltith yn ei gnoi dros dragwyddoldeb; yntau oedd mewn cyflwr truenus yn yr ystafell lle yr oedd ei wely, yn gwaeddi, ac yn drewi gan ryw ffieidd—dra oedd yn dyfod allan o'i gorff; yr oedd yn gorfod i'r dyn ag oedd yn tendio arno daflu finegr hyd y llofft, cyn y gallai fyned yn agos ato. Nid oedd un forwyn na doctor yn myned ar ei gyfyl yn y diwedd; ac felly yr oedd ef yn ysgrechian yn ofnadwy, ac yn gwaeddi ar y mab i'w glyw, ac yn dywedyd,—"Ow! y tir i Dwm o'r Nant"; ac felly fu. Mae y tir gennyf drwy drugaredd, ac a brynais yleni werth cant punt a deunaw ato o'r mynydd. Ond fel y dywed Solomon, "Gwae y gwr a adeilado dŷ âg arian rhai eraill." Felly fe orfu i minnau fenthyca; ac eto mae arnaf ofid yn fy nghynnal fy hun, i walio a chloddio o'i amgylch; ond yn enw Duw mi wnaf hynny, os ca' i fywyd ac iechyd. Mi a ddaethum drwy'r byd yn rhyfedd hyd yn hyn. Mi a fum rhwng Sir Drefaldwyn a Deheubarth saith mlynedd. Myned o'm gwlad mewn ofn a phrudd-der, a dyfod yn ol dan chwareu, gwedi ymadel âg ofn a'r achos o hono, o ran y byd, ond bod achos pwysig i ofni a chrynu o herwydd pechod; ac fod achos mwy i ddiolch ei bod hi cystal arnaf, ac fel y gallasai hi fod yn waeth.

Mi gefais fy iechyd yn rhyfedd, trwy bob troion hyd yma; ond yn unig pan aeth y wagen ar fy nhraws wrth bont Rhuddlan, lle cefais brofedigaeth fawr, a gwaredigaeth fwy. Pan godais ar ol i'r olwyn fyned trosof, mi a eisteddais ar ganllaw y bont, ac yna clywn lais eglur yn dywedyd,