Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

—"Dos, ac na phecha mwyach, rhag digwydd iti beth a fyddo gwaeth": ac felly yn dal i ddywedyd hyd oni ddaeth pobl ataf Mi ofynais i rheiny a oeddynt hwy yn clywed dim llais? Hwythau a ddywedasant,—" Nag ydym ni."

A phryd arall cefais waredigaeth neillduol wrth lwytho pren mawr yng nghoed Maes-y-plwm. Yr oedd cario y pryd hynny cyn uniawni y ffyrdd, a'u gwneyd yn durnpik, a'r wageni a ffrâm arnynt, a rowl ar y canol, tebyg i'r peth a elwir boulster; minnau oeddwn yr ochr nesaf i nant ddofn, yn troi yn y rowl gyda throsol haiarn cryf ar olwg; fe dorrodd yn nhwll y rowl, onid oedd y dynion ag oedd yn edrych yn y ngweled yn troi fel mountebank, ac yn disgyn yn nghanol tomen o gordwd oedd gwedi eu taflu ar eu gilydd y'ngwaelod y nant. Mi a gefais beth dychryn, ond ni friwais i ddim, gymaint a thorri crimog. Felly trwy ryw ragluniaethau, mi a gefais fy achub hyd yn hyn. Hi a fu yn lled gyfing arnaf lawer gwaith; ond yr oedd imi beth ffafr mewn gweithio, pan flinais yn chwareu.

Mi a fum, y blynyddoedd cyntaf ar ol dyfod o'r Deheudir, yn saer maen, yn cymeryd gweithiau, ac yn cadw gweithwyr; ac un hanner blwyddyn, mi aethum at y bricklayers i Lan y Wern i ddysgu peth o'r gelfyddyd honno; ac felly mi a ddysgais weithio yn lew ar briddfeini. Ac yn awr, er ys pump o flynyddoedd, fy ngwaith yw gosod ffyrnau o haiarn, neu bobtyau, medd rhai; ac hefyd gosod ffwrneisiau, at bob achos, a gratiau, a sloves, a boilers; ac aml iawn y byddaf yn smoak doctor. Yr wyf yn ennill cyflog lled dda; ond yr ydwyf yn fwy methianllyd am weithio,