Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Anfynych y clywir neb yn datgan
Histori neu hanes, heb ei ganmol ei hunan;
Does dim yn derchafu ac yn clymu yn clèr
Mor sutiol a balchder Satan.

Mae balchder Cymry ffolion
I ymestyn ar ol y Saeson,
Gan ferwi am fynd o fawr i fach
I ddiogi'n grach fon'ddigion.

Os cant hwy ryw esgus i fod yn 'r ysgol
Ni wiw am air o Gymraeg ymorol;
They cannot talk Welsh, nor understand,
Oni fyddir yn grand ryfeddol.

Y mae'n gywilyddus clywed carpie
Yn lladd ac yn mwmian ar iaith eu mame,
Heb fedru na Chymraeg, na Saesneg chwaith—
Onid ydyw'n waith annethe?

Ac os bydd rhyw hogenig wedi bod yn gweini,
Yn Nghaer neu'r Amwythig, dyna'r cwbl yn methu ;
'Cheir gair o Gymraeg, ac os dwed hi beth,
O'r ledieth fydd ar mei ledi.

Chwedl mawr yw bod fis yn Lloeger,
Fe ddysg merch ifanc lawer o fedrusder;
Siarad modest a phletio'i min,
'R'un fath a thwll y tanner.

Yn Nghymru mae llawer coegen
A roi goron i blayers Llunden,
Ac ni all i Gymro fforddio o'i phwrs,
Un geiniog heb gwrs o gynnen.

Ac y mae llawer crach gynffongi
Na hidie fo gownen er taflu gini