Am le i hwrio neu gamblo ar gais
Yn nghwmni rhyw Sais lled sosi.
A rhyfedd fel y dywed cwmni o Gymry,
"O, the English song is very pretty!"
Ac yn agor eu cege a'u clemie clws,
Ar gorws yn gwehyru.
Dyma fel y byddant yn canu ac yn bloeddio,
Heb air o gysondeb, yn berwi ac yn sowndio;
A phe baed am ganu Cymraeg yn son,
Ni ddealle'r gwyr mwynion mono.
Mae hyn yn helynt aflan
Fynd o'r hen Gymraeg mor egwan;
Ni cheiff hi mo'i pherchi mewn bryn na phant
Heno gan ei phlant ei hunan.
Ymddengys Traethydd.
Traethydd. What is this gibberish, foolish fellow?
Tom. Dam i sil Satan, dyma Sais eto.
Traeth. Do not talk nonsense.
Tom. Taw, dacw Nansi,
Siarad Gymraeg neu ddos i'th grogi,
'Does yma fawr o Saesneg glân
Ond ychydig gan Sian a Chadi.
Traeth. Paham 'rwyt yn lladd ar Saesneg mor greulon ?
Tom. Lladd yr wyf fi ar Gymry beilchion
Sy'n ceisio gwneuthur pob dyfeis,
I fod mor breseis a'r Saeson.
Oni ellir dysgu Saesneg ar gore
Ac heb fynd yn feilchion goegion gege—