Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

I wadu na fedront ddim yn faith,
Mewn moment, o iaith eu mame?
Traeth. Mae 'marferiad, oni chlywsoch, yn llawer
achlysur.
Tom. Wel ydyw, mi wn eto, lle bo duedd mewn
natur,
Ond am fod yn dduw, yn ol gair yr hen walch,
A chodi, mae balch bechadur.
Traeth. 'Does fai ar neb am godi'n raddol,
Fel bo'u sefyllfa'n gyfatebol.
Tom. Ym mhob sefyllfa fe ddylai dyn
Adnabod ei hun yn wahanol.
Traeth. Doethineb trwy degwch y'mhob galwed.
igeth
Sy'n tynnu'n gysonedd rai tan ei gwasaneth;
Lleferydd a gwyneb sy'n dangos gwahanieth;
Mae dynion yn dirwyn at ddull eu gwladwrieth.
Tom. Wel, felly, nid celwydd caled
Yw barn dostaf y Methodistied;
Mae gwladwyr y cythrel yn hawdd eu cael,
Wrth eu bywyd gwael, i'w gweled.
Mae'r meddwon a'r lladron tan un llywodreth,
Y tyngwr, a'r rhegwyr, a phob rhywogeth,
Dilynwyr pechod yn gytun,
Yn deulu o'r un gwaedolieth.
Traeth. Mae pob rhyw fasweddwyr mewn pechod
yn suddo.
Tom. Wellbeth ydyw maswedd? rhag ofn mod
i'n misio.
Os oes gennyt reswm, dod yn ei le,
Er undyn, mi wnaf finne wrando.