Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

34
Twm o'r Nant.
Heb ddim cnoi cnil yn eu gene na'u calon,
I ddal neu fyfyrio ar dduwiol arferion.
Tom. Wel son am greaduried 'rwyt ti rwan,
A gwahanol gyflwr, glan ac aflan,
Oni ddaeth llenlliain o'r nef i'r llawr,
Mewn gafel ddirfawr gyfan ?
Ac 'roedd pob creaduried yn hon yma,
A glân oedd y cyfan, cofia;
Ac yr oedd cyhoeddus weddus wadd,
Heb atal, i ladd a bwyta.
Traeth. Y llenlliain hon yw'r efengyl a'i rhyddid,
Ond rhaid yw lladd cyn bwyta er bywyd;
'Does cig na physgod na llafur yn fuddiol,
Heb eu lladd a'u torri o'u cyflwr naturiol.
A dyma'r porth cyfyng mae gafel y bywyd,
Sef marweiddio gweithredoedd y cnawd trwy'r
ysbryd,
A dysgu croes Crist, egwyddor crefydd,
Yn ysgol rad y creadur newydd.
Tom. Gan dy fod mor ddoeth gad i mi glywed
Pa foda 'roedd plant Israel yn ysbeilio'r Aifftied,
Yn benthyca tlyse ac yn dwyn ar duth,
Heb dalu byth mo'u dyled.
Traeth. Yr aur a'r tlyse a'r gwisgoedd gwychion,
Sydd deip o dalente a donie dynion,
Rhai ddylid fenthyca oddiar naturieth,
I ogoneddu'r Hwn sydd berffeth.
Tom. Wel, os tâl benthyca felly,
Gallwn ninne ddawnsio a chanu;
Pe medrem ni ganmol Hwn sy'n llawn
Yn rhoi rhinwedd a dawn i hynny.