Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Tri Chryfion Byd. 35
Traeth. Pob dysg a dawn, pob llawn gallineb,
Mae gogoniant y Creawdwr trwyddo'n ateb,
Ond natur dyn trwy falchder Satan,
Sydd am ogoniant iddo'i hunan.
Tom. Wel, ni waeth inni dewi'n ebrwydd,
Na phe baem ni'n ymddiddan ddeuddydd,
Profi pob peth, a dal yr hyn sy dda,
Ydyw'r ffordd benna' beunydd.
[Diflanna Syr Tom Tell Truth.
MYNEGEIR Y CHWAREU.
Traeth. Wel, bellach crybwyllaf, mi dystiaf am
destyn,
O'r dull yn deg hylwydd mae'r trefniad yn canlyn,
Am Dri Chryfion Byd, ddwys olud, mewn sylw,-
Sef Tlodi, a Chariad, ac Ange tra chwerw.
A Chariad yw'r hynaf, o chredir yr hanes,
O ran, pan gadd gwrryw gu fenyw yn ei fynwes,
Ac wedi iddi ei gwympo a'i rwydo ef o'i rydid,
'Roedd Cariad yn ddiau'n cywiro'r addewid.
Ond melltith y pechod drwy hynod drueni,
A'r noethni dyledus, wnaeth nyth i Dylodi,
Na chaffai ddyn fara, heb chwysu'n llafurus,
Ac Ange yn y diwedd, ac ing, yn ei dywys."
Ond cryf iawn yw cledi Tylodi a dyledion,
Yn boenus iawn beunydd, oer ddeunydd ar
ddynion,
Yn gwneyd i rai feddwl am waith a chelfyddyd,
Fel mae gan bawb awydd i gynnal eu bywyd.
Ac eirias o gariad, wir fwriad arferol,
Yw elfen cenhedleth naturieth daearol,