Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto


Tri Chryfion Byd.
Ymddengys Syr Tom.
Tom. Wel, gwir ddwedodd Satan, mae'n hysbys
eto,
Bydd dynion fel duwie er cael eu handwyo ;
Mae ffrwyth pren gwybodaeth da a drwg
Yn gwneyd cynnwr' amlwg heno.
Mae swn am gyfoeth a mawrhydi,
A swn diawledig ydyw son am dlodi,
Heb fawr yn synied ar ferw saeth
Y barieth sy'n ei beri.
Heblaw'r hen felltith wreiddiol
Sy'n peri tlodi'n wladol,
Balchder gwyr mawr yn gwasgu'r gwan,
Mae hyn yn rhan erwinol.
37
Balchder sy'n gyrru bon ddigion segurllyd
Tua Ffrainc neu Loegr i rythu eu llygid,
I ddysgu ffasiwne a gwario'n fall
Ddau mwy mewn gwall nag ellid.
Mae ganddynt yn Llunden lawer llawendy,
I droi'r gath yn'r haul i fonddigion Cymru;
Playhouses a lotteries, ffawdus ffull,
Ac amryw ddull i ddallu.
Ac yn y play y cant hwy eu pluo,
Rhwng hwrs a licers y bydd eu haur yn slacio,
Rhaid canlyn holl egni cwmpeini pur,
'Ran grandrwydd gwyr yn gwario.
A dyna'r nod, fy 'neidie,
Mae gwyr mawr stowt yn gwario statie,
Wrth ddilyn balchder, a'u harfer fel hyn,
Peth costus ydyw canlyn castie.