Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Twm o'r Nant.

Ond balchder cyn y collo
Ei fywolieth wrth drafaelio,
Nac y cym'ro fe ronyn llai na'i raid,
Fe geiff y gweiniaid gwyno.

Hel sgamers o Lunden, a llawer o helyntoedd,
A land surveyors i reviwio'r tiroedd ;
A'u mesur hwy drostynt, gwlyb a sych,
Y caue'n grych a'r gwrychoedd.

A mynd a map i'r gwr bonheddig,
O bob cyrrau, y coed a'r cerrig,
Pob cae a ffrith, pob acr a phren,
A chodi cyn pen ychydig.

Cyhoeddi, a galw'r tenantied i'r gole,
A dwedyd mewn ecrwch fod hyn a hyn o acre,
Ac y myn y meistr tir gael codi ar y rhent,
Mae hyn yn gonsent i ddechre.

A hwythe, tenantied y brynie a'r nentydd,
Yn mynd yn anhyweth at y ffasiwn newydd,
Wrth glywed eu Saesneg hwy'n hynny o fan,
Yn mron gan anhapusrwydd.

Ac yntau'r stiward, nid oedd dim stayo,
Ond"Come forth, what ails ye, Cymro ?
Your land will be let for better pris,
Don't be a foolish fellow."

Ac ynte'r hen denant bron a diwyno,
Heb wybod be i'w ddwedyd, ond diodde'i wawdio,
A begio ar un o wyr ei wlad,
Mewn tristwch, siarad trosto.

Ac fealle hwnnw, 'run fath a Haman,
Yn cymryd y tyddyn iddo'i hunan;
A'r dynan truan, gan ffalsder trwch,
Yn ei dwllwch raid fynd allan.