Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Tri Chryfion Byd.

Ac felly, dyna hwnnw'n gorfod myned,
Wedi colli i fywolieth iddo'i hun a'i nifeilied,
Ac fealle'r plant yn mynd ar y plwy,
Yn bwyse mwy ar denantied.
39
Dyna'r meistr a'i denant heb gael dim daioni,
Ond codi stiwardied yn falch ac ystwrdi,
Does ryfedd beunydd yn y byd
Fod cymaint o lid a thlodi.

Ymddengys Gwiddanes Dlodi.

Gwiddanes. Pwy sydd yma yn cadw'i lol,
Fel gylfinir, a'i glol i fyny?
Tom. Pwy ydech chwithe, ai merch y gwr
drwg,
A gadd yn y mwg ei magu?
Gwidd. Myfi yw'r widdan sy'n gwneyd i ra
waeddi,
Rwy'n gryfa drwy wledydd, fe'm gelwir
Tlodi.
Tom. Braidd na waeddwn i fy hun
Wrth edrych y fath un a thydi.
Gwidd. Myfi yw'r hynaf ymhob trueni,
Fe'm ganwyd yn nyth y newyn a'r noethni,
Pan ddarfu i Adda lyncu ei damed,
Myfi oedd y gyntaf a welodd e' â'i lyged.
Ac fe'i rhoed ef dan berygl na chai ddim bara,
Ond trwy chwys ei wyneb o'm hachos i yna;
A byth yn fy magl 'rwy'n dal rhai a'm dwylo
Mewn gofid ac angen, oni fyddant hwy'n gwingo.
Ymffrostied gwyr mawrion yn eu parch a'u cymeriad,