Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

40
Twm o'r Nant.
'Roeddynt hwythe'n dylodion a gweinion pan 'u
ganed;
Oni pheidiant ag ymwychu, a gyrru, a gwario,
Fel na allont hwy ateb, ânt felly eto.
Tom. Oni ddarfu rhai brynnu tiroedd dan godi
eu torre,
Erbyn agor llyged, ni thelynt mo'r lloge?
Achos enw mawr a bychan fudd,
Mae'r aerod bob dydd yn diodde.
Hwy aethant 'run fywolieth a Guto Felyn,
Ychydig laeth a hynny'n enwyn;
Oni cheir gwaith corddi, fel y dwedodd fy nain,
Hi a fydd yn o fain am fenyn.
Gwidd. Ond balchder yn ymgyrredd gormod,
A melltith drygioni pechod
A wneiff, yn ddwys, yn mhen oes neu ddwy,
Feddianne mwy'n furddynod.
Tom. Mae aml blas mawr yng Nghymru heno,
Mae'n chwith i lawer un fynd heibio,
Lle bydde fon'ddigion hardd eu drych,
A gwein'dogion gwych yn trigo.
Gwidd. Hwy lanwent folie gormeswyr ffeilsion,
Yn lle rhoi elusen i bobl dlodion ;
'Does ryfedd fod melltith ar dir a thai
I ddigwydd i rai bon'ddigion.
Tom. Wel, mae nhw i'w canmol draw ac yma,
Am roi cynhalieth i'w cwn hela;
Maent yn llawnach o flawd, mi glywes son,
Yn eu bolie na thylodion y Bala.
Gwidd. Ond anllywodreth, mewn dull anfeidrol,
Sy'n rhoi i mi le i feistroli pobol,