Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Tri Chryfion Byd.
Balchder ac oferedd sy'n cyfeirio,
Yn tynnu 'neilied i tan fy nwylo.
Rhyfedd heno i'w gofio ar gyfer
Mor ddau wynebog ydyw balchder,
Gyrru rhai i weithio, gyrru rhai'n lladron,
Pob castie diawledig rhag mynd yn dlodion.
Fy ofn i sy'n peri i rai godi'r bore,
Rhai i'w gorchwylion, rhai i'w siwrneie,
A'r plant bach fydd yn llefain rhag llafur fy
ngafel,
A'r hen bobl yn rhedeg, bron colli'r hoedel.
Myfi ydyw'r hynotaf mewn ffair a marchnad,
Fe edrych pawb arna i à chornel eu llygad;
Rhag fy ofn i y bydd y rhai cryfaf
Yn cael bargeinion ar ddwylo'r rhai gwannaf.
41
O! meistres erwinol wyf fi ar weinied;
Mi dorres hyd y Nentydd yma lawer o denant-
ied,
Rhai fydde'n meistroli mewn balchder ac
oferedd,
Ond myfi fydd eu meistres hwy yn y diwedd.
Mi weles yma ftarmwyr yn byw'n drefnus
Yn dilyn ceiliogod a chyffyle rasus;
Ond pan ddown i atynt yn fy awdurdod,
Fe fydde melus gael canlyn mulod.
Ac mi weles rai yn rhwysg eu cyweth,
Yn wyr synwyrolaf trwy'r gymdogeth;
Ond pan ddown i unweth yn feistres arnyn'
Ni fedde nhw synwyr un briwsionyn.
Ac mi weles wyr gorchestol arw,
Yn perchen tiroedd yn fawr iawn eu twrw,