Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

42
Twm o'r Nant.
Yn mynd, rhai ar y plwyf, a'r lleill i'r ffatri,
A'r lleill i'r jel i isel oesi.
A'r merched mwyn gymen â'r llygad main
gwamal,
Sydd heddyw mor sosi yn caru ac yn sisial,
Pan ddeloch i'r bwth bach, yn gwla'ch gwely,
Chwi fyddwch yn llafar, na thalwch mo'ch llyfu.
Yrwan mewn sadrwydd mae i chwi gonsidro,
Os myfi fydd y feistres, mi wnaf i chwi fwstro,
Heb ddim bycle plated, na gown brith plotiog,
Na ffedoge gwynion, mi ddaliaf fi geiniog.
Y glog sidan ddu, a'r wire capie,
A'r balloon bonnets, a'r hetie rubane,
A'r handcherchiefs mawr, a'r ruffles dwbwl,
O, myfi yn y funud a'ch gwisgaf chi'n fanwl.
Ac yn lle tê i'ch brecwast mi fyddaf fi'n eich
procio,
I gymryd potes gwyn bach, neu laeth wedi'i
dwymo,
Brywes dwr a halen neu gawl erfin,
Bydd weithie'n anodd cael pen wnionyn.
Tom. Wel, wfft i'ch calon, gyda'ch ceuled,
Onid ych yn ddigywilydd yn rhoi ffår mor
galed?
Gwidd. Os daw ataf fi na mawr na mân,
Yn waeledd hwy gan' weled.
Tom. Mae'n dost i chwi'u bwlio hwy'n weigion
eu bolie.
Gwidd. Fealle y ca'n hwy fara os codan yn fore;
Ond ni wiw i un o honynt edrych yn ddig,
Ni cha'n hwy fawr gig i'w cege.