Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto


44
Twm o'r Nant.
Gwidd. Onid yw merched mor aflawen,
Yn eu hynod handwyo'u hunen,
Trwy ddilyn gormod chwant y cnawd,
Yn wynebu'n dylawd anniben?
Tom. Wel dyna ddarluniad unig
O'r ffrwythe gwaharddedig,
A'r gorchymyn sydd yn gofyn bod
Ufudd-dod nod enwedig.
O ran y peth sydd wan a meddal,
Mae'n fwy gogoniant iddo gael ei gynnal;
Nid rhaid i'r iach wrth feddyg drud,
Tra tyfo mewn bywyd diofal.
Nid rhaid diolch i'r lladron lledrydd,
Os ffaelian hwy gael gan gloie neu welydd,
Mwy nag rhaid diolch mewn llawer lle,
I feini meline am lonydd.
Ond hawdd cadw cestyll neu'r cistie fo heb daro,
'Does orchest oruchel ond i'r hwn a ymdrecho,
Ac a ymladdo yn erbyn dyn a diawl
Yn ollawl ac a enillo.
Gwidd. Nid pobl ymdrechgar hygar eu hagwedd,
Ond rhai pur galon weinied, sydd gen i yn fy
ngwinedd,
Rai llyrfion ymddygiad, a llawer o ddiogi,
Sy fynycha'n cael eu rhwydo a'u dyludo i dylodi.
Mae mhobl i, druen, bob rhyw droie,
Yn hawdd eu hadnabod wrth wedd eu hwynebe,
Sef y dua ei grys, a'r gwynna ei esgid,
A'r siwrwd ei gefen fydd yn siarad mewn gofid.
Mr. Bwel o Bob Pâr, a Mr. Cysgu'n Hir y Bore,
A Mr. Clox Tine Agored, a Mr. Clos Tan ei
Arre,