Tudalen:Twm o'r Nant Cyf I.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AT Y CYFAILL MYFYR

 N gymaint ag i amryw ddynion fy annog i ysgrifenu Hanes fy Mywyd o'm genedigaethaeth, neu yn hytrach o'r hyd yr wyf yn sicr o gofio; minnau, gan obeithio na bydd yn dramgwydd i neb, nag yn ddianrhydedd i'r Hollalluog, yr hwn a'm gwaredodd o amryw o ddamweiniau peryglus o'r pryd yr oeddwn yn ddwy flwydd a hanner oed hyd heddyw, oblegid i mi glywed fy nhad a mam, ac eraill, oedd yn hollol wybodus o'm dechreuad, mi anturiaf osod i lawr gynifer o'r pethau neilltuol a glywais ac a brofais yn fy nghoffadwriaeth am danaf fy hun. Yr wyf yn gyntaf-anedig i dad a mam, ac yn tarddu o genhedlaeth tu mam trwy Prysiaid Plas Iolyn, ac o du tad o hil trigolion Dyffryn Clwyd, sef Cawryd, Cadfan, ac eraill, hyd onid aethant fel yn wehilion y genedl honno cyn i mi ddeillio o honynt, sef gan mwyaf yn dylodion ac yn annysgedig, o ran medru ar lyfrau, ond y medr oedd ynddynt yn ol natur gyffredin, fel creaduriaid eraill. Ac o lwynau pa rai fe y'm

dygwyd i'r byd mewn lle a elwir Penparchell[1]

  1. Y gair Penporchell sydd o gam ddywediad am y lle; canys Pen Parc Llwyd a ddylai fod; oblegid Iorwerth Llwyd oedd enw Iolo Goch, a pharc iddo ef oedd y dref ddegwm honno; ac hi a gyfenwid cyn i dafodau pobl y wlad gam dreiglo y gair o Benparcllwyd yn Benporchell.