Tudalen:Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen).pdf/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'Rwy'n ame'n ddigysur y rhoison' hwy gosyn
I'r hen awff hurtedd a fydde'n dweyd ffortun,
Mi a'u clywes yn siarad ac yn cadw syrwrw,
Fod honno'n ymleferydd y byddwn i farw.

Ac nid ydwy'n ame llai mewn difri',
Nad oeddynt hwy'n erfyn i mi farw i 'nghrogi;
Roedd fy nghlocs gan un o'r llancie'n y domen,
A'r llall yn dechre glynu yn yr hen wasgod wlanen.

Ac felly ni choeliech chwi, 'r cwmni enwog,
Hynny o greulon golledion llidiog,
A gefes i tra fum yn sâl,
Fe gostiodd imi dâl cynddeiriog.

Ac mi fum cyn ddyled ag addoli,
A hel pregethwyr acw i floeddio ac i goethi;
A garw'r cwrw a'r bara gwyn cann
A aeth yn rhan y rheiny.

Ac 'roedd gennyf botel frandi,
Fe lyncwyd hwnnw i'w grogi,
A cheirch i'w ceffyle hwy, hyn a hyn,
Onid oeddwn i'n cryn greuloni.

Hwy fwytason' beth anaele,
Rhwng bacwn, biff, ac wŷe;
Siawns ond hynny don' nhw i'n tŷ ni,
I goethi mo'u pregethe.

Yr holl gwmffwrdd calon ges i oddiwrthyn'
Oedd dangos fy nhŷ, a'm stoc, a'm tyddyn,