Tudalen:Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen).pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HANES HENAINT. 1799.

GLYWCH gwynfan clychawg anferth
Gan Brydydd annedwydd nerth:
Daeth henaint oed wth ynnwyf,
Dirfawr nych, a darfu'r nwyf.
I'm henaint ymwahanodd
Alar a meth lawer modd.

Methiant ar ffrwythiant ffraeth
Cry' hoff helynt corffolaeth,
O'm traed i'm pen daeth gwendid,
Cymysgrwydd, llesgrwydd, a llid:
Llid na bawn mor llydan bum,
A mynwesdeg mewn ystum,
Yn gallu canu cynneddf,
Liosog rym, lais a greddf.
Hwyl hyf oedd gennyf i gân,
Arwydd utgorn ar ddatgan;
Ond weithian, myned waethwaeth,
Bref braint, f'ysgyfaint sy gaeth;
Pesychu, mewn pwys uchel,
Fy ngrudd ei chystudd ni chêl;
Torri 'nghrib at fy niben
Mae'r byd—fe ddaw marw i ben.

Meirw wnaeth fy nhadmaethod,
A'm cyfeillion, feithion fod;
Chwithdod a syndod yw sôn,
Mewn gafael am hen gofion:
Drwy edrych, wrthrych warthryw
Yr ystum y bum i byw.