Tudalen:Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen).pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fy athrylithr yn llithrig,
Ac gyda chwant, gwaed, a chig;
Ias fyw oedd fy ysfa i,
Anian burwyllt yn berwi;
Byw awch gynneddf bachgennyn,
A geidw gof, iawn ddof yn ddyn.

Dysgais i ddewrllais ddarllen,
Ar waith fy mhwys, wrth fy mhen;
A 'sgrifennu, mynnu modd
Rhieni, er mor anodd;
Byddai mam yn drwyngam dro,
Ran canwyll oedd rhinc honno;
Fy nghuro'n fwy annghariad,
A baeddu'n hyll, byddai 'nhad;
Minnau'n ddig o genfigen,
Câs o'm hwyl, yn cosi mhen,
Ac o lid, fel gwael adyn,
Llosgi 'ngwaith, yn llesg 'y ngwŷn.

Er hynny, 'n ol trefnu tro,
I'r un natur awn eto;
Ym mhob dirgel gornel gau,
Fy holl wiwfryd fu llyfrau;
'Sgrifennwn res grai fynych,
Mewn hunan grwm yn nhin gwrych;
Symud bys, rhag ysbys gau,
Lle'n wallus, i'r llinellau;
A'm gwaith nos dangos wnai'r dydd,
Mor fywiog, a mawr f'awydd;
Fy holl wanc a'm llwyr amcan,
Ddarllain ac olrhain rhyw gân.