BONEDD A CHYFFREDIN.
(Alaw—"Y Galon Drom.")
Robert Davies, rhyw bert ofyn
A yrraist i mi, yn wers dwymyn,
Oblegid bonedd, blagiad bennau,
A'r cyffredin gyffroiadau;
Nid wy' teilwng nodi at olwg
Am y cyfryw
Faith iawn ymliw, fyth yn amlwg;
Dyn truenus, boenus beunydd,
Ydwy'n wyrdraws,
Rhy ofernaws i'm rhoi'n farnydd.
Wele'r farn yn gadarn gydwedd
A geir inni o'r gwirionedd,—
Mai ffrwyth pechod, arfod hirfaith
O dir uffern, ydyw'r effaith;
Hwn yw'r achos yn oruchel
Cynhyrfiedig;
Pawb am ryfyg, pob ymraf'el;
Yr un anian sy ynnom ninnau,
Ag oedd yn gosod
Cynnyg isod Cain ac Esay.
- ↑
Ateb i Robert Davies, Nantglyn, a ofynasai am wreiddiol achos yr anghydfod a fu rhwng y Bonedd a’r Cyffredin, yn Ninbych, 1795. Dechreua cerdd Bardd Nantglyn fel hyn:—
"Tomos Edward, mi osodaf
Egwan eiriau, ac yn araf;
Brawd a thad parodwaith ydych,
O dŷ’r Awen. waed oreuwych;
A chan eich bod mor agos berthyn,
I chwi’n eglur,
Mwyn drwy fyfyr, mentrafofyn.—
Beth yw’r gwreiddyn ddygodd flagur,
Chwerw dyfodd,
Ac a ledodd rhwng ein gwladwyr?"