Tudalen:Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen).pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Lawer ffordd a llawer cwestiwn
Sydd yn t'wyso rhyw demtasiwn;
Gormod cyfle, a mynych arfer,
Eill ein hudo ni o'n llawn hyder;
Er bod doethineb mawr yn Sal'mon,
Merched lledrydd,
Draws eu gilydd, droes ei galon;
Er gwneyd teml Dduw yn 'i ddechreu,
F' aeth i weithio,
Dan wenh'eithio, i'w duwiau nhwytheu.

O! mor llithrig ydyw llwybyr
Tuedd dyn i fynd wrth natur;
Rhyfedd gariad a thrugaredd,
Fod rhai'n sefyll hyd y diwedd;
Os ai fel Pedr dros y llwybrau,
Gweddia'n fynych,
I Dduw edrych, di ddoi adrau:
Golwg Iesu a'n galwo'n gyson,
A'i air fo'n llosgiad,
Unig hwyliad yn ein calon.

OLWYNION DWFR MELIN RHUTHYN.

CODOG fawr enwog forwynion,—dwy-rod,
Yn dirwyn yr afon;
Cwyd gwegil codau gweigion,
Codau o bwys ceidw y bon.