Tudalen:Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen).pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PEDAIR COLOFN GWLADWRIAETH.

BRENIN, USTUS, ESGOB,HWSMON.

Rhyfela, Cyfreithio, Efengylu, Lluniaethu.

Awyr, Tân, Dwfr, Daear.

Anadl, Cyfraith, Efengyl, Cnawd

.

YN gymaint ag i mi ryfygu argraffu y cyfryw waith distadl ag yw hwn, oblegyd ei fod yn myned tan yr enw Chwaryddiaeth fe geir amrywiol yn ei wrthwynebu, canys ni allant oddef i ddim da ddyfod o Nazareth. Fe fydd y farn arnaf fi, yn enwedig ymhlith dynion ffroen uchel Phariseaidd, a hidlant wybedyn, ac a lyncant gamel.

Ond yn fwy neillduol, mewn ffordd o amddiffyniad i'm gorchwyl, mi a ddymunwn ar bob un esgusodi barnu cyn profi y dystiolaeth. Gwaith pawb a brofir; felly mi a ddymunaf ar y rhai sydd barotach i farnu nag ystyried, i ddarllen neu wrando yr hyn sy'n gynwysedig; ac yna hwy a gânt adnabod fod pob gair yn wir at ei achos.

Yn gyntaf, fe ddaw un i adrodd y testyn, ac un dan enw Brenin; ac at hwnnw, un i ddatguddio amrywiol o'r twyll sydd yn y deyrnas; yn ol hynny, yr Hwsmon (sef y Cybydd); ac at hwn fe ddaw hen fenyw ddiog. A daw un dan enw Esgob; ac at hwnnw fe ddaw un i gellwair am le i fyned yn offeiriad; yn hyn y datguddir y trueni a'r llygredd sydd mewn gosodiadau eglwysig. Ac yn ganlynol daw yr Ustus, ac