Tudalen:Twm o'r Nant Cyf II (ab Owen).pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ato ef yr Hwsmon, ym mha le y dangosir dull y cam-gyfreithiau a'r creulondeb sydd yn y wladwriaeth. A daw yr Hwsmon i'w ddyrchafu ei hun, mai efe sy'n cynnal pawb; i ba un yr atebir, na all un alwedigaeth ei chynnal ei hun,—fod sefyllfa ddynol yn gyffelyb i un dyn, y pen a'r holl aelodau yn gyfatebol i un corff. Daw yr Hwsmon, wedi ei ofidio gan glefyd, yn ymofyn Doctor, ac yn addunedu, os cai hoedl hwy, y byddai yn ddyn duwiol; ac y mae yn ymddarostwng i ychydig o enw diwygiad; ond pan gyntaf y gwellhaodd o'i glefyd, y mae yn myned waeth nag o'r blaen, ac yn y diwedd yn marw yn druenus. Yn y modd hyn y mae'r llyfr hwn yn treiglo.

Nid oes gennyf ond ei adael i'ch barn chwi oll, gan obeithio nad oes neb mor foethus na allant "brofi pob peth, a dal yr hyn sydd dda."

Yr eiddoch oll, &c.,

THOMAS EDWARDS.